Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Tachwedd 2017
Amser:
08.30 -
09.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad at agenda Cyfarfod Llawn dydd Mawrth:
- Y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Dyfodol Cadw (30 munud)
· Byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
· Cadarnhaodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
· Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 15 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
Dydd Mercher
· Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 29 Tachwedd 2017 -
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddyd i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (60 munud)
Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2017 –
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at
Drafnidiaeth ar gyfer Pobl Anabl (60 munud) -
wedi'i ohirio
· Dadl ar y ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' (60 munud)
Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2017 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd (60 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
·
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 29 Tachwedd:
NNDM6521
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.
2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod Unigol nesaf ar 13 Rhagfyr.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i neilltuo amser i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddyd i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ddydd Mercher nesaf, 29 Tachwedd, yn ogystal â'r busnes arall a drefnwyd.
Ymataliodd Julie James rhag pleidleisio, gan nad oedd wedi trafod y mater â'i grŵp, ond nid oedd yn dymuno rhwystro'r ddadl rhag cael ei threfnu. Fodd bynnag, dywedodd ei bod yn disgwyl y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno gwelliannau i'r cynnig, i egluro rhai rhannau o'r cylch gorchwyl.
Datganodd Rhun ap Iorwerth ei farn y dylai'r Cynulliad ystyried penodi Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Cod y Gweinidogion, yn rhan o'i ystyriaeth o'r mater hwn.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl ar y ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar', sydd wedi cael 8,791 o lofnodion. Trefnir y ddadl ar gyfer 6 Rhagfyr yn lle'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus. Caiff y ddadl honno ei haildrefnu i'w chynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai gan y llywodraeth ragor o wybodaeth newydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w rhannu pe byddai'r ddadl yn cael ei chynnal yn y flwyddyn newydd, ond ei bod yn fodlon cyd-fynd â barn y mwyafrif.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i gael eu hesgusodi o'r Cyfarfodydd Llawn ar 29 Tachwedd 2017 a 6 Rhagfyr 2017, â'r disgwyliad y byddai'r chwipiau yn gwneud trefniadau i hwyluso hyn.
Ar ôl cael cais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfleu i'r Pwyllgor hwnnw ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddai'n well ganddynt ymestyn y dyddiad cau i 13 Rhagfyr 2017 er mwyn bod yn ddigon hyblyg i allu cynnal dadl yn gynnar yn y flwyddyn newydd pe byddai angen, a rhag i ddigwyddiadau achosi i'r adroddiadau fynd yn angof. Cadarnhaodd y Llywodraeth y byddai'n cyflwyno rhagor o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar welliannau newydd o sylwedd yn ôl yr angen.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau a ganlyn ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf yn 2018, a chytunwyd y dyddiadau a ganlyn dros dro ar gyfer hanner tymor mis Hydref a thoriad y Nadolig 2018.
Toriad |
Dyddiadau |
Hanner tymor y gwanwyn 2018 (1 wythnos)
|
Dydd Llun 19 Chwefror 2018 – dydd Sul 25 Chwefror 2018
|
Toriad y Pasg 2018 (3 wythnos)
|
Dydd Llun 26 Mawrth 2018 – dydd Sul 15 Ebrill 2018 |
Hanner tymor y Sulgwyn 2018 (1 wythnos)
|
Dydd Llun 28 Mai – dydd Sul 3 Mehefin 2018 |
Toriad yr Haf 2018 (8 wythnos)
|
Dydd Llun 23 Gorffennaf 2017 – dydd Sul 16 Medi 2018 |
*Hanner Tymor yr Hydref 2018 (1 wythnos)
|
Dydd Llun 29 Hydref 2018 – dydd Sul 4 Tachwedd 2018 |
* Toriad y Nadolig 2018 (3 wythnos)
|
Dydd Llun 17 Rhagfyr 2018 - dydd Sul 6 Ionawr 2019 |
* Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r eitem hon hyd gyfarfod yn y dyfodol.